| |
Dros yr wythnosau diwethaf bu Lucy’n brysur iawn yn recordio ei CD newydd yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ac ar ddechrau Gorffennaf cafodd ‘Angel’ ei chyhoeddi. Mae Lucy yn hapus iawn gyda’r casgliad, sy’n cynnwys tair cân Gymraeg a phump Saesneg. Dywedodd “Er ei fod yn waith caled ar adegau, mi wnes i fwynhau’r profiad recordio yn fawr a chael cydweithio yn y stiwdio gyda fy athrawes ganu, Mari Pritchard a’r cynhyrchydd, Hefin Elis. Rydw i’n gobeithio’n fawr y bydd pawb yn mwynhau gwrando ar y CD”. Rhwng y sesiynau recordio, bu Lucy’n cynnal cyngherddau ac yn diddanu’r teithwyr sy’n cyrraedd Caergybi ar y llongau pleser anferth bob haf. Mae'n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o Wyl Gobaith Rhys Meirion ddiwedd Awst ac i ganu yn Noson Gerdd Castell Biwmares ddechrau Medi. Ym mis Tachwedd bydd yn rhannu llwyfan gyda’r gantores adnabyddus Faryl Smith yn Venue Cymru Llandudno; digwyddiad arall cyffrous i Lucyf.
Dyddiadau cyngherddau:
Tachwedd 26 - Rhosneigr. Goleuo'r goleuadau Nadolig
Rhagfyr 3!! Y Ganolfan, Porthmadog – 7.30yh
£12 (tocynnau gan Siop Eifionydd)
Rhagfyr 4 - Eglwys Sant Thomas, Y Rhyl. Cyngerdd
nadolig gydag enillydd Britain's Got Talent, Jai
McDowall.
Rhagfyr 14!! Theatr Felinfach, Felinfach –
7.30yh £10 (tocynnau – 01570 470697)
Ionawr 28 !! Gwesty Kinmel Manor, Abergele
Chwefror 18 !! Eglwys St Thomas, Y Rhyl
|
|