Cerddoriaeth ~ Cryno Ddisgiau  
 

PRYNU'R ALBYM:


(cliciwch yma i brynu'r CD o Sain)

  Angel

1. The Road to Paradise is Home
2. Ar Lan y Môr
3. Angel
4. Fedrai Mond dy Garu di o Bell
5. On My Own
6. When you Say Nothing at all
7. Ar Hyd y Nos
8. From a Distance

 


 

Pan ddaeth Lucy Kelly, y ferch ifanc o Baradwys, Môn i’r brig mewn tair cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn 2008, fe wyddem fod yna seren newydd wedi ei geni. Arweiniodd ei llwyddiant yno at gyngherddau led-led Cymru a thu hwnt, ac at ei record gyntaf: ‘Y Llais o Baradwys’. Daeth yn amlwg nad llais arbennig yn unig oedd iddi, ond presenoldeb llwyfan a phersonoliaeth hyfryd a naturiol yn ogystal.

Cafodd wahoddiad i berfformio mewn cyfres o ddigwyddiadau a lleoliadau cyffrous, yn amrywio o’r Cwpan Ryder i Neuadd Albert, a bu’n rhannu llwyfan gyda llu o gantorion blaenllaw megis Rhys Meirion, Elin Fflur, Dafydd Iwan, Gwawr Edwards, Trebor Edwards, Shân Cothi, ac Aled Wyn Davies.

Dengys yr ail albym yma fel y datblygodd y ferch ifanc yn gantores aeddfed; erys y bersonoliaeth befriog a’r reddf gerddorol, a bellach fe’u priodir â’r hyder hwnnw a ddaw gyda phrofiad. Yn wir, o gofio mai 13eg oed yw Lucy o hyd, mae’r perfformiad a’r llais a glywir yma yn rhyfeddol o bwerus ac aeddfed. Mae stori ramantus a chyffrous Lucy Kelly yn parhau, a’i llwyddiant yn sicr – a gellir dweud hynny gyda sicrwydd am ei bod, diolch i gefnogaeth ei rhieni, ac ar waetha’r sylw mawr a ddenodd mor ifanc, yn ferch sydd â’i dwy droed yn solet ar ddaear Ynys Môn.

 
 
 
 

PRYNU'R ALBYM:


(cliciwch yma i brynu'r CD o Sain)


(cliciwch yma i lawrlwytho'r traciau o iTunes)

  Y Llais o Baradwys (The Voice from Paradise)

1. Daw’r gwanwyn eto'n ôl
2. Y darlun
3. The rose
4. Y ddau farch
5. Ceirios
6. As long as I have music
7. Mil harddach wyt na'r rhosyn gwyn
8. Pe bawn i
9. Child thoughts
10. Rho dy law
11. Mae'r môr yn faith
12. Too young to know
13. Nos da Mam

 


 

Daw Lucy Kelly o ardal hyfryd yn Ynys Môn o’r enw Paradwys; nid creadigaeth ddi-ystyr rhyw asiantaeth hysbysebu mo’r disgrifiad “y llais o Baradwys” felly, ond datganiad o ffaith, a ffaith sy’n llawn arwyddocad, fel y daw’n amlwg i unrhywun sy’n gwrando ar y recordiad hwn.

Cyhoeddir yr albwm yma pan mae Lucy’n unarddeg oed ac ar ei blwyddyn gyntaf yn Ysgol Gyfun Llangefni, ac ers yn ifanc iawn mae wedi bod wrth ei bodd yn canu a pherfformio. Yn wir, cyrhaeddodd lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y tro cyntaf pan nad oedd ond 6 oed, ac ers hynny cafodd yrfa eisteddfodol ryfeddol o lwyddiannus, gan ennill droeon yn ein Gwyliau Cenedlaethol.

Wedi ymddangos ar sawl rhaglen deledu, bu’n canu gyda Hogia’r Wyddfa ar lwyfan y Noson Lawen. Mae’n aelod o Gôr Iau Ysgol Glanaethwy ac y mae gofyn mawr amdani mewn cyngherddau ledled y wlad. Teithia o Baradwys i bentref Prion ger Dinbych yn wythnosol i gael hyfforddiant canu gan y gantores Leah Owen, ac y mae’n mwynhau dysgu pob math o ganeuon, boed yn glasurol, yn ganeuon gwerin neu Gerdd Dant.

Wrth baratoi’r recordiad hwn, roedd Lucy hefyd yn gweithio gyda Leah ar ganeuon ar gyfer ei hymddangosiad yng Ngwyl y Corau Meibion yn Neuadd Albert Llundain, un o’r ieuengaf erioed i ganu ar y llwyfan byd-enwog hwnnw.

Gyda’r fath lais aeddfed, ei phersonoliaeth fyrlymus a’i chymeriad hoffus, mae Lucy Kelly yn sicr yn ferch ifanc y clywn lawer amdani yn y dyfodol, a gwyddom y bydd croeso mawr i’r CD gyntaf hon o’i heiddo.

 
 
  Mae Lucy Kelly yn un o artistiaid Sain
Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG ~ Ffôn +44 (0) 1286 831.111 - Ffacs + 44 (0) 1286 831.497
www.sainwales.com | gwefan: © www.eurigroberts.com